Cymryd lle hen dŷ adfeiliedig a oedd unwaith yn rhan o dyddyn ger pentref tlws Aberdaron
Wedi ei leoli ychydig yn ȏl o’r brif ffordd, fe archwiliwyd nifer o opsiynau safle ac archwiliadau mas i helpu i greu cynllun a fyddai’n gydnaws â’r patrwm stryd o fynglos a thai newydd cyffredin eu naws a oedd eisioes yn bodoli. Ond mae’r dyluniad ar y run pryd yn mynd yn groes i gonfensiwn drwy greu wyneb blaen anarferol o fodern i’r tŷ, y waliau mewn render o silicon gwyn a’r ffenestri ‘dormer’ hefo clading sinc.
Y tu ȏl i flaen deulawr y tŷ sy’n wynebu’r ffordd fawr, mae adain un llawr sy’n cynnwys y brif ystafell fyw sy’n ymestyn allan tuag at gaeau yn y cefn, gan ffurfio cowt cudd a gofod gardd. Mae hyn yn creu perthynas esmwyth rhwng y tu mewn a’r gofod tu allan – yn dod â’r tu allan i’r tu mewn, ac yn eich galluogi i weld yr olygfa banoramig o drwyn y Rhiw yr holl ffordd i’r ynysoedd ar draeth Aberdaron.
Effaith gweledol
Mae’r tŷ newydd wedi’i insiwleiddio’n dda ac wedi’i ffitio hefo ffenestri a drysau o wydr triphlyg o bren/aliminiwm, ac ynni adnewyddol ar ffurf pwmp aer sydd hefyd yn gweithio’r gwres dan y llawr drwy’r tŷ.
Mae llawr o goncrid wedi’i bolisho a gofod eang o wydr o gwmpas y cowt yn y cefn yn helpu i greu tu mewn tawel a golau, sy’n ychwanegu at y teimlad cyfoes, cynnil sydd i’r bensaernïaeth.