Practis profiadol ac amryddawn sy'n cyfuno creadigrwydd hefo arbenigedd technegol ac agwedd pragmatig

Rydym yn bractis dwyieithog sydd yn cynnig gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg

Rydym yn gweithio’n agos hefo adeiladwyr a chyflenwyr lleol i ddarparu adeiladau o ansawdd a manylder arbennig yn ogystal â darparu lefel uchel o gynaliadwyedd ac effeithlonlrwydd ynni.

Mae gan Dobson Owen enw da’n yr ardal fel penseiri profiadol a chrefftus.Rydym yn bwriadu adeiladu ar y gwaddol hwn ac ehangu ar ein dylanwad i wneud cyfraniad pwysig a phositif i’r gymuned a’r ardal leol drwy ddal ati i gynllunio adeiladau a phrojectau o ansawdd uchel o fewn y tirwedd nodedig o’n cwmpas.

Menter Rabar illustrated plans

Cwrdd â'r tîm

Rhodri Evans

Wedi astudio yn Ysgol Bensaernïaeth Prifysgol Metropolitan Manceinion a gweithio am flwyddyn yn yr Almaen, dechreuodd Rhodri ar ei brofiad proffesiynol yn arbenigo mewn adeiladau ysgol, cyn gweithio mewn Canolfan Gymorth Dechnolegol Gymunedol ‘Community Technical Aid Centre’ oedd yn darparu a datblygu adeiladau cymunedol a phrojectau o gwmpas ardal Manceinion. Yn ddiweddarach dychwelodd at bractis preifat er mwyn cael profiad o addasu ac adnewyddu adeiladau dinesig a chanol tref i ansawdd uchel, yn cynnwys rhai rhestredig, yn bennaf ar gyfer amryw o ddefnyddiau masnachol.

Symudodd yn ȏl i fyw i’w gynefin yng Ngwynedd ym 2015 a chymryd drosodd rhedeg practis Dobson Owen ym 2021. Ers hynny mae o wedi cynllunio amryw o brosiectau preifat preswyl, yn ogystal â dylunio ac adeiladu prosiectau ar gyfer y gymuned ar raddfa bach a mawr ar draws Gwyned, wedi ariannu gan grantiau a chyllid cyhoeddus. Bu Rhodri’n diwtor rhan amser yn Ysgol Bensaernïaeth Manceinion [MSA] am ddeng mlynedd, ac mae’n parhau i gynnal ambell i adolygiadau cynllunio mewn nifer o brifysgolion.

Derec Jones

Pensaer Projectau

Mae Derec wedi gweithio yn Dobson Owen am bron i 30 mlynedd ac yn bensaer technegol hynod brofiadol sydd wedi cynhyrchu nifer o brojectau preswyl ar gyfer y practis, yn ogystal â phrojectau mawr cymunedol fel Canolfan Y Cywain yn y Bala. Mae ganddo brofiad helaeth iawn o weithio ar brojectau o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, a chanddo ddiddordeb brwd a gwybodaeth eang o dechnegau adeiladu ar gyfer adeiladau hanesyddol a phensaernïaeth cadwraethol.

Ffion Gruffydd

Pensaer Prosiect cydweithiol

Mae Ffion yn gynllunydd talentog hefo blynyddoedd o brofiad mewn cynllunio sawl project mawr ar gyfer addysg uwch, ysgolion, a phrojectau gofal iechyd i bractis AHR ym Mryste. Yn ddiweddar gweithiodd Ffion yn hynod o lwyddiannus hefo ni ar gynllunio a gwireddu gweledigaethau ar gyfer nifer o brojectau preswyl o ansawdd uchel yn ogystal ar amryw o brosiectau cymunedol.

Arfon Jones

Rheolwr Swyddfa

Gyda cefndir mewn cyfrifiadureg a phrofiad mewn rhedeg cwmni adeiladu, mae Arfon yn hynod o gymwys i edrych ar ȏl agweddau cyllido a gweinyddol y practis, yn ogystal ag edrych ar ȏl y sustemau TG.

Ein hysbrydoliaeth ydy’r tirwedd arfordirol nodweddiadol o’n cwmpas yn ogystal â’r gymuned Gymreig a’i diwylliant.

Mae’n dealltwriaeth o’r hinsawdd a natur garw y tirwedd a’n parch tuag at ffurfiau a deunyddiau adeiladu traddodiadol yn dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn mynd ati i greu cynlluniau cyfoes ond hefo’r symlrwydd sydd yn ategu’r tirlun.

Oherwydd ein bod yn gweithio mewn ardal wledig rydym yn gyfarwydd iawn hefo heriau rheoleiddio a rheolau cynllunio sydd ynghlwm â datblygu safleoedd mewn tirwedd eithriadol o sensitif a chadwraethol.

Mae’r rhan helaethaf o’n projectau bellach yn defnyddio sustemau egni adnewyddadwy neu o leiaf un math o ynni adnewyddadwy gan roi cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni wrth galon y cynllunio a’r adeiladu.

Bolmynydd