Arwain ein cleientiaid trwy'r broses ddylunio gyfan
Bydd y broses yn dechrau drwy wrando’n ofalus ar y cleient, a deall y ffordd orau i arwain a gweithredu yn unol â natur y safle, yr adeilad a’r brîff, y gyllideb a beth sy’n bosib’ yn wyneb cyfyngiadau.
Gallwn gynnig gwasanaeth llawn drwy’r holl gamau gwaith RIBA, yn ogystal ag arwain ein cleientiaid drwy’r holl broses gan ddechrau hefo datblygu’r brîff, asesu dichonoldeb a thrafod opsiynau dylunio, arweiniad drwy’r broses caniatâd cynllunio a rheoleiddiadau adeiladu, hyd at adeiladu a phrisio’r project. Mae gennym hefyd fynediad at ymgynghorwyr ac arbenigwyr eraill yn yr ardal a all fod o fudd neu sy’n hanfodol i gyflawni prosiect.
Ein gwasanaethau
Tai Newydd
Estyniad
Adnewyddu
Preswyl
Cymuned
Gweithle
+Mwy
Mae adeiladau da yn cael eu creu a’u gwireddu drwy gyfuniad o ddychymyg a realaeth
Yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi datblygu arbenigedd mewn gwaith preswyl preifat o ansawdd uchel yn cynnwys adeiladu o’r newydd, estyniadau,adnewyddu ac addasiadau sydd yn aml mewn llefydd gwledig heriol ac mewn ardaloedd cadwraethol ym Mhen Llŷn, Parc Cenedlaethol Eryri a thu hwnt.
Mae’n harbenigedd hefyd yn weladwy mewn addasiadau a newid defnydd llawer o adeiladau hynafol rhestredig, a’n dealltwriaeth o’r technegau cadwraethol sydd eu hangen wrth weddnewid yr adeiladau hyn.
Mae gennym hefyd gryn arbenigedd a dealltwriaeth helaeth ym maes pensaernïaeth cymunedol ac wedi helpu sawl project blaenllaw ar draws Gwynedd i wireddu eu projectau o ran cyllido, cynllunio ac adeiladu.
Rhoi yn ôl i’r gymuned leol
Rhan o’n athroniaeth ydy defnyddio’n gwybodaeth leol, ein profiad a’n dylanwad mewn ffordd bositif i geisio cyfrannu at werth cymdeithasol ein cymunedau, a hwyluso’r broses o greu incwm posibl allan o addasu adeiladau gwag.