Yn ôl

Teiars Llŷn

Musclemorph Campfa Breifat, Pwllheli

O hen garej wag i weithle a champfa fywiog ar lan harbwr Pwllheli

Newidwyd defnydd y cyn garej wasanaeth ceir hwn yn gym ffitrwydd a chodi pwysau preifat, yn ogystal a swyddfeydd ar y llawr uwch.

Safai’r adeilad gwreiddiol mewn lleoliad blaenllaw ar ymyl harbwr Pwllheli ac yn cefnu ar y rheilffordd, ond roedd mewn cyflwr gwael ac yn ddolur llygad mewn lle mor amlwg. Felly un o’r brif heriau’r prosiect oedd sut i drawsnewid hen adeilad o gymeriad lled-ddiwydiannol fel hwn yn rhywbeth modern a deniadol, oedd yn haeddiannol o’r lleoliad gwych a phwysig yma yn goredrych yr harbwr ac ar ymyl canol y dref.

Construction phase of the Musclemorph Private Gym retrofit in Pwllheli, showing the former garage interior being refurbished
Exterior construction phase of the Musclemorph Private Gym retrofit in Pwllheli, showing scaffolding to the former garage building Former tyre and service garage in Pwllheli before works began, prior to its retrofit into Musclemorph Private Gym

Ffabrig wedi’i uwchraddio, golygfeydd dros y dŵr, a phresenoldeb newydd gyda’r nos.

Gyda cyllid eithaf tyn, llwydwyd i ail-wampio ac ynysu’r gragen, ail-douo a chladio a chyflwyno ffenestri a ‘curtain wall’ newydd er mwyn caniatau golygfeydd o’r harbwr o’r llawr uwch, a chreu delwedd ac argraff modern ond syml sydd yn adleisio cymeriad lled-ddiwydiannol yr adeilad gwreiddiol ac adeiladau eraill ar hyd yr harbwr.

Ar y llawr gwaelod mae’r prif ofod gym mae paneli o flociau gwydr aneglur yn cyflwyno golau dydd i mewn i’r gofod, ond sydd hefyd yn gwarchod preifatrwydd ar y run pryd, tra yn bywiogi’r stryd drwy daflu goleuni gyda’r nos gan fod hwn yn gym 24awr.

Completed Musclemorph Private Gym retrofit in Pwllheli, showing the illuminated frontage with glass blocks and upper-floor offices
Completed Musclemorph Private Gym retrofit in Pwllheli, showing the harbourfront building illuminated at dusk Completed Musclemorph Private Gym retrofit in Pwllheli, showing the side elevation and illuminated harbourfront frontage at dusk
Aerial View of new gym

Gadewch i ni eich helpu i fynd â’ch prosiect i’r lefel nesaf

Rydym yn benseiri profiadol a hyblyg sy’n cyfuno creadigrwydd ag arbenigedd technegol a dulliau ymarferol. Dewch am sgwrs!