Steil nodweddiadol o fewn Parc Cenedlaethol Eryri
Dros y blynyddoedd rydym wedi cyflawni nifer o brojectau o fewn Parc Cenadlaethol Eryri, ac mae’r project hwn yn nodweddiadol o arddull sydd wedi datblygu dros amser drwy ein dealltwriaeth o’r tirwedd a lleoliadau sensitif, yr adeiladau yr ydym wedi dod ar eu traws, a’n profiad helaeth o ddelio hefo’r awdurdod cynllunio a’r cyfyngiadau o fewn eu polisïau.
Yn ogystal ag adnewyddu’r annedd oedd eisioes yn bodoli, codwyd estyniad deulawr mawr yn lle’r strwythur parlwr haul. Mae talcen y tŷ o wydr, gyda drysau ‘bifold’ pren a grewyd yn arbennig yn agor y tŷ i fyny i olygfeydd trawiadol o ddyffryn yr afon Dwyryd o gyfeiriad Maentwrog.
Er fod y ffurf at ei gilydd yn draddodiadol ac yn cadw at arddull yr annedd gwreiddiol, mae’r ffrâm goed, y cladio, y ffenestri a’r drysau yn adlewyrchu’r ymdeimlad o ddeunyddiau moethus sy’n gwneud yr annedd yn amlwg ac unigryw.




