Yn ôl

Tafarn Yr Heliwr

Fe fuddsoddodd dros 500 o gyfranddalwyr dros £80,000 ar y cyd i brynu’r adeilad.

Tafarn gymunedol ydy’r Heliwr a brynwyd gan drigolion tref Nefyn ym mis Mai 2018. Mae’r Heliwr yn dafarn a gwesty hanesyddol sy’n dyddio nȏl i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Lleolir y dafarn mewn ardal o gadwraeth o fewn hen dref Nefyn, a bu’n rhan annatod o fywyd cymunedol Nefyn am genedlaethau lawer.

Mae’r adeilad wedi bod yn wag ers 2009, ac angen ail-gynllunio ac adnewyddu’r tu mewn i gyd.

Gan weithio hefo pwyllgor o wirfoddolwyr, fe roddom gymorth i ail-gynllunio’r dafarn gydag estyniad yn y cefn sydd bellach yn hwb cymunedol a lle ar gyfer digwyddiadau, yn ogystal â llety gyda 4 ystafell en-suite ar y lloriau uwchben sy’n cynnwys gwelyau sdeil bync wedi’u cynllunio a’u hadeiladu’n arbennig.

Tafarn Yr Heliwr 3D sketch
Tafarn Yr Heliwr exterior - before work Tafarn Yr Heliwr plans

Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu yn Chwefror 2020, ac ail-agorwyd Yr Heliwr i’r cyhoedd yng Ngorffennaf 2021.

Dylunwyd elfennau pwysig a manwl ar gyfer tu mewn a’r tu allan i’r adeilad, yn cynnwys bar newydd, meinciau esmwyth, a gwneud y sedd ffenestr bae yn fwy. Rhoddwyd ffenestri ‘sash’ newydd yn lle’r fframiau gwreiddiol ac adnewyddu yr hen simdde fawr.

Cafodd Yr Heliwr gyllid gan sawl corff yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd a’r Loteri Cenedlaethol.

Tafarn Yr Heliwr pub interior

Gadewch i ni eich helpu i fynd â’ch prosiect i’r lefel nesaf

Rydym yn benseiri profiadol a hyblyg sy’n cyfuno creadigrwydd ag arbenigedd technegol a dulliau ymarferol. Dewch am sgwrs!