Yn ôl

Pant Y Wennol

Wedi'i leoli o fewn ardal gadwraeth tirwedd a thirwedd hanesyddol gofrestredig

Mae Pant y Wennol wedi’i leoli mewn ardal o gadwraeth a thirwedd cofrestredig hanesyddol ac yn edrych ar olygfa odidog dros Fae Ceredigion. Fe gymrodd y tŷ newydd 5 llofft yma le bwthyn a adeiladwyd yn y ddeunawfed ganrif ac a ddinistrwyd gan dân.

Gan fod y safle yn dirwedd anodd ac ar wastadedd wedi ei naddu i lethr sy’n wynebu’r De, roedd rhaid gofalu fod y cynllun i godi tŷ mawr modern yn cydweddu â’r tirwedd, ac hefyd yn llwyddo i leihau’r effaith weladwy fyddai cynllun o’r math yn ei greu, o’i gymharu â’r bwthyn traddiadol oedd yno’n wreiddiol.

Pant Y Wennol exterior
Pant Y Wennol exterior Pant Y Wennol exterior

Wrth edrych ar y tŷ o’r dyffryn isod, mae’r annedd newydd yn debyg i ‘sgubor drawiadol wedi ei rendro mewn gwyn, ac yn swatio’n erbyn cefnlen o gaeau gwyrdd a llwyni.

Mae’r cynllun yn cyfuno estheteg pensaernïaeth gyffredin Gymreig sydd i’w weld ar Benrhyn Llŷn, sef y bythynnod carreg gwyngalchog a’r cytiau amaethyddol sydd wedi’u cladio mewn metel, ac elfennau modern fel gofod byw agored ar y llawr isaf gyda ffenestri tal, a’r defnydd o fanylder a deunyddiau cyfoes.

Ar flaen y tŷ ac yn ymestyn allan, mae adeilad un llawr gyda’r talcen wedi ei orffen mewn clading sinc, sydd yn adleisio’r clading metel sydd yn cael ei ddefnyddio ar siediau amaethyddol yn frodorol yn yr ardal. Mae hyn yn eich galluogi i werthfawrogi’r olygfa o’r tirwedd anhygoel o’r ardal fyw, ac yn rhannu’r teras mawr tu allan sy’n wynebu Porth Neigwl i’r chwith, tra’n rhoi cysgod a nodwedd i’r brif fynedfa a’r dreif ar y dde.

Pant Y Wennol exterior
Pant Y Wennol living room Pant Y Wennol dining room
Pant Y Wennol exterior

Gadewch i ni eich helpu i fynd â’ch prosiect i’r lefel nesaf

Rydym yn benseiri profiadol a hyblyg sy’n cyfuno creadigrwydd ag arbenigedd technegol a dulliau ymarferol. Dewch am sgwrs!