Creu cyfleusterau modern ac aml-bwrpas ar gyfer y gymuned a hynny mewn byr amser ac ar gyllid gweddol fychan
Gyda’r cyfuniad o Grant Loteri a Llywodraeth Cymru mi drawsnewidwyd y cyn ysgol gynradd ym mhentref y Fron yn ganolfan gymunedol fywiog, yn cynnwys caffi, siop gymunedol, ystafelloedd newid a Llety 16 ystafell wely math ’bunkhouse’
Yr her i Dobson Owen a’r cleient oedd cyflwyno amryw o ffyrdd gwahanol o ddefnyddio’r ysgol wag Fictorianaidd hon, drwy ail-fodelu ac ymestyn yr adeilad.


Y canlyniad
Fel rhan o’r trawsnewidiad i’w droi yn adeilad effeithlon o ran ynni,yn unol a deniadol,fe roddwyd render wedi’i insiwleiddio ar y tu allan,ffenestri a tho newydd. Mae wedi’i bwêru yn gyfangwbl hefo ynni adnewyddadwy gyda pympiau gwres ffynhonnell aer a phaneli solar 8KW ar y to.



