Mae'r adeilad, sydd wedi bod yn wag ers 2019, bellach ym mherchnogaeth y gymuned yn dilyn cynnig cyfranddaliadau llwyddiannus o £460,000.
Mae Dobson Owen wedi cael ei gomisiynu fel ymgynghorydd arweiniol i weithio ar y prosiect cyffrous hwn i ailddatblygu Gwesty Y Tŵr, cyn-westy rhestredig Gradd II ar Stryd Fawr Pwllheli, yn westy, tafarn a gofod cymunedol unigryw sy’n eiddo i’r gymuned.
Y cynllun nawr yw cychwyn rhaglen adnewyddu tair cam i ailagor yr adeilad fel tafarn a chaffi/bwyty ar y llawr gwaelod, cyfarfod cymunedol a gweithle ar y llawr cyntaf, gyda 2 lawr o ystafelloedd gwesty uwchben. Mae datblygu dyluniad ac ymgynghori â’r gymuned a rhanddeiliaid eraill ac asiantaethau ariannu ar y gweill.





