Codwyd estyniad gweddol fawr ar un ochr i’r tŷ yn lle hen garej.
Dydy’r bwthyn o faint cymhedrol mewn sdeil ‘arts and crafts’ o’r 1920au heb newid o gwbl ers can mlynedd, ac felly roedd angen ei adnewyddu a’i foderneiddio. Roedd y cleient hefyd yn awyddus i gael dwy lofft ychwanegol a chegin oedd yn fwy o faint, gyda threfniant mwy ymlaciol i’r ardal fwyta a byw yn agor ar feranda mewn cilfach yn y cefn.


Y canlyniad
Mae’r estyniad newydd yn cynnwys 2 lofft fawr, ystafell molchi ac yn fwyaf arbennig mynedfa well a newydd oddi ar y cowt sydd yn lled amgaëdig. Tu mewn gwelir cyntedd sydd o uchder dwbl ac ystafell gotiau sy’n arwain at y drws cefn ac ystafell aml-bwrpas newydd.
Mae nodweddion gwreiddiol y tŷ fel render haen arw[‘roughcast’] a pharapet corbelog ar y talcen wedi cael eu hail greu’n ofalus yn yr estyniad, a’r ffenestri dur gwydr sengl wedi’u newid i ffenstri main aliminiwm gwydr dwbl yn adlewyrchu sdeil ‘Crittall’ y tŷ’n wreiddiol.



