Yn ôl

Melinsoch

Unwaith yn felin wedi’i lleoli wrth nant yn deillio o’r afon Soch, mae’r adeilad hardd, carreg, anarferol yma eisioes wedi cael ei droi yn gartref yn y 1950au, ond yn awr mewn cyflwr gwael ac angen ei foderneiddio a’i adnewyddu.

Cynlluniwyd ac ychwanegwyd estyniad mawr ‘wrap-around’ i ochr a chefn yr hen felin, a oedd yn gorfod cael ei leoli’n ofalus i leihau’r risg o lifogydd gan ei fod yn agos at nant gerllaw.

Adnewyddwyd y toeau llechi i gyd, a gosod paneli solar integredig, yn ogystal â phwmp gwres ffynhonnell aer.

Effaith gweledol

Defnyddiwyd clading o bren llarwydd lleol ar waliau’r estyniad a gafodd ei dduo drwy ddefnyddio techneg Siapaneaidd ‘shou sugi ban’, techneg sy’n cynyddu oes y pren ond sydd hefyd yn ychwanegu patina du sydd yn creu effaith bensaernïol ddramatig.

Er fod amlinelliad a siâp yr estyniadau yn eithaf traddodiadol, mae’r deunyddiau a’r manylder yn gyfoes, gan sicrháu fod gwahaniaethu eglur, ond hefyd cydsynio rhwng yr hen a’r newydd.

Gadewch i ni eich helpu i fynd â’ch prosiect i’r lefel nesaf

Rydym yn benseiri profiadol a hyblyg sy’n cyfuno creadigrwydd ag arbenigedd technegol a dulliau ymarferol. Dewch am sgwrs!