Cefnogi ac adfywio'r ardal wledig ac amaethyddol dan anfantais economaidd o amgylch Y Bala
Yn wreiddiol bwriadwyd y lle fel canolfan ddehongli ar gyfer treialon cŵn defaid, ond datblygwyd y ganolfan yn fenter crefftau gwledig aml-bwrpas ar gyfer cynnal ac adfywio ardal wledig amaethyddol dan anfantais economaidd o amgylch ardal y Bala.
Fel prif ymgynghorwyr roedd Dobson Owen yn gysylltiedig hefo llunio canllawiau cynllunio atodol, a chyngor ar ymgorffori nifer o grefftau celf o fewn y cynllun.


Y canlyniad
Mae’r prosiect yn cadw pwyslais ymarferoldeb y practis ar gynaliadwyedd, gan gynnwys elfennau ynni adnewyddadwy yn y dyluniad, megis pwmp gwres tarddiad daear a chasglu dŵr glaw.

