Fe adeiladwyd y tŷ newydd yn Llanbedrog i gymryd lle caban asbestos o’r 1950au nad oedd â chaniatád cyfreithiol i’w ddefnyddio fel annedd.
Yn ogystal â wynebu’r her o gael caniatâd cynllunio, roedd y safle yn anodd i’w ddatblygu oherwydd fod y tir yn serth a dim llawer o le arno, a’i fod mewn man gwledig ac anial o fewn Ardal o Harddwch Naturiol yn Llŷn.
Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar yr amod fod unrhyw dŷ a adeiladwyd ar y safle o wneuthuriad ysgafn ac yn gyfyngedig o ran maint. Y datrysiad oedd pensaernïaeth ar wedd caban, gan ddefnyddio SIPS [Structured Insulated Panels] sydd yn effeithiol iawn o ran ynni ac yn gragen seliedig. Adeiladwyd y cwbl oddi ar y safle ac yna ei godi ar y safle o fewn wythnos.
Y canlyniad
Mae’r cynllun cyfoes yn cynnwys dau ffurf hirsgwar cyfochrog wedi gladio mewn llarwydd o Siberia yn gorgyffwrdd i greu ffenestri math ‘clerestory’rhwng y ddau, a tô sinc ar rediad sydd yn helpu i gydweddu siâp lletraws yr adeilad gyda’r llethr serth. Mae’r adeilad mewn man uchel gyda’r blaen yn arnofio dros ben yr ardd islaw, ac mae’r ffenestri mawr a’r corneli gwydr yn edrych ar olygfeydd dramatig i lawr i’r dyffryn islaw a thuag at y bryniau ar ochr ogleddol y penrhyn.