Bu Capel Salem yn wag am dros ddegawd, ond ym 2022 cafodd ei brynu gan y crochenydd a’r beirniad ar y rhaglen deledu ar Sianel 4 ‘The Great British Pottery Throw Down’ sef Keith Brymer Jones.
Rydym wedi cael caniatâd cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig ar gyfer ei addasu a newid y defnydd i gartref, creu stiwdio grochenwaith, a gofod cymunedol. Mae’r adnewyddu bellach wedi cychwyn ac rydym yn gyffrous iawn i fod yn rhan o’r project hwn i adfywio adeilad sydd wedi chwarae rhan mor allweddol yn nhref Pwllheli.
Y sialens oedd i flaenoriaethu pa ran o’r adeilad i’w adnewyddu o fewn terfynau cyllid. Roedd yn rhaid i ni hefyd feddwl sut i gyflwyno newid defnydd yr adeilad yn sensitif ar gyfer adeilad crefyddol rhestredig. Tra’n gweithio mor agos â phosib’ gyda’r strwythur gwreiddiol a chadw’r nodweddion hanesyddol, heb ymyrryd gormod yn saernïaeth a chymeriad yr adeilad, a chadw’r costau dan reolaeth.
Y canlyniad
Bydd y galeri addurnedig yng nghorff y capel yn cael ei gadw, ac felly’n diogelu gofod crefyddol yr adeilad. Mae rhan fwyaf o’r addasiadau yng nghefn yr adeilad lle bydd y Festri Fawr yn troi’n stiwdio,hefo’r ystafell Ysgol Sul yn cael ei greu’n lle i fyw.
Mae rhai o’r adnewyddiadau a’r gwaith atgyweirio wedi cael ei ffilmio gan Sianel 4 ar gyfer cyfres mewn pedair rhan sef, ‘Our Welsh Chapel Dream’ a gafodd ei ddangos ar y teledu yng Ngwanwyn 2024.