Yn wag ers dros 3 mlynedd, y brif sialens oedd cael caniatâd cynllunio a chaniatâd adeiladau rhestredig i newid defnydd y cyn gapel yn lety gwyliau.
Oherwydd nad oedd yn bosib’ gwneud defnydd arall o’r adeilad, mi drafododd Dobson Owen yn llwyddiannus hefo adran Gynllunio Cyngor Sir Gwynedd i newid yr arweiniad ar y cais cynllunio atodol i ganiatau eithriadau ar gyfer adeilad rhestredig fel y capel hwn, er mwyn sicrhau fod y capel yn cael ei achub drwy ei ail-ddefnyddio a’i addasu.
Cafodd y to ei ail wneud a chadw’r 21 o ffenestri ‘sash’gan eu hadnewyddu hefo gwydrau ‘secondary’ i sicrhau oes hir, tra’n cadw cymeriad gwreiddiol y capel carreg gwledig.


Manteisio ar y gofod tal wrth ddarparu golygfeydd uchel dros y lleoliad coediog y tu allan
Mae llawer o’r nodweddion gwreiddiol y tu mewn i’r capel wedi cael eu cadw, fel y pulpud,pâr o sgriniau gwydr lliw sydd wedi cael eu hymgorffori yn yr ystafelloedd ‘molchi newydd, y rhosyn nenfwd [‘ceiling rose’ ] a’r mowldliadau a chornisiau a adferwyd gan grefftwyr arbenigol.
Ar y tu mewn crewyd defnydd domestig newydd drwy greu ‘tŷ ar ei ben i lawr’ gyda’r llofftydd ar y llawr isaf, a gofod byw agored uwchben ar strwythur ‘mezzanine’ newydd.
Mae’r strategaeth cynllunio yma yn gwneud y mwyaf o’r gofod uchel a’r golygfeydd y tu allan o’r ardal goediog tra’n ymgysylltu hefo’i bwrpas gwreiddiol fel adeilad crefyddol.




