Roedd y project yma’n estyniad cymhleth oedd yn golygu adnewyddiad llawn o eiddo o gyfnod y 1930au yn Abersoch oedd yn y gorffennol wedi cael ei ddefnyddio fel tŷ ar gyfer gwely a brecwast.
Roedd y cleient eisiau tu mewn oedd yn teimlo’n foethus a golau a chyda cyswllt cryf â’r ardd gefn. Mae ffenstri dur hirion mewn sdeil Crittall yn yr estyniad newydd, a’r drysau yn agor i feranda ‘wrap-around’ a theras newydd uchel sydd yn rhoi’r teimlad o ofod mwy nag ydy o mewn gwirionedd.
Adnewyddwyd rhan wreiddiol o’r tŷ hefyd gan geisio adfer rhai o’r nodweddion gwreiddiol oedd wedi eu colli. Amod pwysig arall oedd uwchraddio effeithlonrwydd ynni’r adeilad gwreiddiol fel y gallai weithio fel system hybrid o ynni adnewyddadwy ynghŷd â boiler nwy newydd a phaneli solar a roddwyd ar yr ystafell ardd newydd a’r garej.


Fe geision ni gyfuno’r elfennau modern hefo cymeriad gwreiddiol y tŷ mewn ffordd lle mae’r elfennau modern yn anodd i’w diffinio ac yn ymdoddi i’r cyfanwaith.
Fe adeiladwyd estyniad mawr deulawr yn y cefn yn lle’r adeilad unllawr oedd yn bodoli i gynnwys cegin a lle bwyta cynllun agored, hefo llofft ychwanegol yn cynnwys y brif ystafell wely ac en-suite uwchben.



