Fe adeiladwyd Benar Fȏr yn lle caban gwyliau oedd ar y safle ers yr 1980au
Wedi’i leoli mewn llain adeiladu bendigedig yn edrych dros harbwr Abersoch, roedd y broses ddylunio yn golygu dadansoddiad manwl o’r safle ac astudiaethau mas i sicrháu y lleoliad a’r gosodiad gorau i wneud y mwyaf o’r olygfa tra’n gydnaws hefo’i leoliad mewn Ardal o Harddwch Naturiol yn Llŷn.
Fe roddodd yr adran gynllunio gyfyngiadau llym ar faint yr adeilad newydd ynghŷd â’r deunyddiau oedd i gael eu defnyddio oedd hefyd yn ychwanegu at yr her. Yn y diwedd fe ysbrydolwyd y datrysiad pensaernïol gan ‘astudiaeth achos’ [‘case-study’] o dai 1950au hefo cynllun dynamig o 3 llawr yn plethu ac yn gorgyffwrdd o gwmpas gofod agored canolog sydd yn wynebu’r harbwr.
Effaith gweledol
Mae’r effaith weladwy o’r tŷ newydd wedi ei dorri i fyny drwy wneud y rhan deulawr ac unllawr mewn gwahanol ddefnyddiau-sef brics wedi eu peintio a llarwydd Siberia. Mae’r brics yn adleisio y tai cynhenid o gyfnod y 1960au a’r 70au o frics wedi eu peintio’n wyn, a’r llall yn ein hatgoffa o’r hafdai bychan oedd yn boblogaidd iawn ar un amser ar y penrhyn yma.
Bu i’r ffrâm SIPS [Structured Insulated Panel] gyfrannu i leihau’r cyfnod adeiladu, tra’n strwythur hynod ‘airtight’ ac wedi ei insiwleiddio’n dda, hefo ffenestri cyfansawdd gwydr triphlyg o aliminiwm/pren. Mae’r gwres a’r dŵr poeth i gyd yn cael ei ddarparu gan bwmp aer gweddol fach, a gosodwyd sustem ‘Mechanical Ventilation with Recovery [MVHR] i sicrháu fod y tŷ’n hynod o effeithiol o ran arbed ynni.