Yn ôl

Bolmynydd

Darparu cartref modern sy'n effeithlon o ran ynni i deulu lleol a chanolfan i weithredu eu busnes gwersylla gwledig

Yr her oedd i gynllunio tŷ newydd yng nghefn gwlad oedd y tu allan i’r ffiniau datblygu ac a fyddai yn llawer mwy o ran maint, ac hefyd o ddyluniad cyfoes. Roedd y cynllun yn gorfod dilyn dyluniad y ffermdy gwreiddiol a’r cytiau carreg gwreiddiol o’i gwmpas. Mae ffurf y tŷ newydd wedi’i ysbrydoli gan y cynllun hirfain ’telesgopic’ traddodiadol. Roedd yn rhaid cymodi’r cynllun fel bo modd cael gofod byw mawr i gydsynio hefo’r cynllun yma, ac i ffurfio gwagle cyd-gysylltiol heb goridorau hir.

Mae’r pedwar prif ofod wedi’u trefnu ar hyd un echel llinol sydd hefyd wedi’i gysylltu’n rhannol, ond ar ffurf sydd yn mynd i mewn ac allan, pob rhan hefo lloriau ar wahanol lefel, ac sydd hefo teras wedi’i dirlunio ar un ochr, fel y gall y safle yma ar lethr wneud yn fawr o’r golygfeydd dramatig tuag at y dwyrain dros y mȏr i gyfeiriad Eryri a thu hwnt.

Bolmynydd wooden door
Bolmynydd living room Bolmynydd floating staircase

Effaith gweledol

Yr effaith ydy ffurf gerfluniol a chryf sydd wedi cael ei gladio mewn carreg o chwarel leol ar un ochr, a tho llechi sy’n anghymesur o ran goleddf mewn ymateb i’r tirwedd pŵerus y mae’n rhan ohono.

Mae’r tŷ wedi ei lunio o ICF [‘Insulated Concrete Formwork’] oedd yn siwtio cefndir a dealltwriath y cleient o adeiladu mewn concrit oherwydd ei gefndir mewn peirianyddiaeth sifil. Mae’r tŷ wedi’i insiwleddio’n dda ac yn aerdynn [’airtight’], ac hefyd yn gweithio drwy ddefnyddio ynni adnewyddol ar ffurf boiler biomas.

Bolmynydd floating staircase
Bolmynydd exterior Bolmynydd exterior
Bolmynydd stonework

Gadewch i ni eich helpu i fynd â’ch prosiect i’r lefel nesaf

Rydym yn benseiri profiadol a hyblyg sy’n cyfuno creadigrwydd ag arbenigedd technegol a dulliau ymarferol. Dewch am sgwrs!